Lleoliad:
Cynhadledd Fideo Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 18 Ionawr 2021
Amser:
11.03 -
12.48
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Y Rheolau Sefydlog
2.1 Diwygio Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Brexit
Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor i'r newidiadau arfaethedig a nododd y newid ychwanegol sy'n ofynnol o ganlyniad i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020.
2.2 Sub Judice
Cytunodd y Pwyllgor i adolygu darpariaethau presennol y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â sub judice, a chytunodd i ddychwelyd at y cwestiwn a ddylid cynnwys eithriadau yn y Rheolau Sefydlog neu mewn canllawiau.
2.3 Diwygio'r Rheolau Sefydlog - Biliau Cydgrynhoi
Cytunodd y Pwyllgor ar yr ymateb arfaethedig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a chytunodd mewn egwyddor â Rheol Sefydlog 26C newydd ddrafft a Chanllawiau drafft y Llywydd.
2.4 Gweithdrefnau Busnes Cynnar
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynigion a nodir yn y papur.
2.5 Adolygu'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â grwpiau gwleidyddol
Ystyriodd y Pwyllgor y materion a nodir yn y papur a gofynnodd i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur gydag opsiynau manylach ar gyfer diwygio Rheol Sefydlog 1.3
2.6 Gweithdrefnau Adalw
Ystyriodd y Pwyllgor y papur a gofynnodd am bapur pellach gyda rhagor o fanylion yn seiliedig ar yr opsiynau a nodir yn y papur.